Y Caffi Dychymyg

delwedd 'Y Caffi Dychymyg'
Y Caffi Dychymyg
  • Gweithdy

Y Caffi Dychymyg

Arddangosfa dros dro a chaffi
28 Ebrill 2018, 10:30am to 4:00pm

Mae'r 'Caffi Dychymyg' yn dod i MOSTYN wythnos yma!

Mae’r Caffi Dychymyg yn herio’r stigma negyddol sydd o amgylch dementia, ac mae’n lledaenu’r neges ynglŷn ag ymchwil celfyddydol arloesol..
Ar agor Dydd Mawrth - Dydd Sadwrn 10.30am - 4.00pm. Croeso i bawb

Yn cynnwys:

  • Arddangosfa o gelf a wnaed gan bobl sy'n byw gyda dementia, a stribed comig Winston's World gan artist enwog Tony Husband.
  • Gweithdai celf am ddim (dyddiol 2-4yh) sy'n addas i bobl sy'n byw gyda dementia, a'u gofalwyr, neu unrhyw un sy'n ffansio rhywfaint o greadigrwydd.
  • Ymunwch â ni ar ddydd Mercher a dydd Iau rhwng 2yh a 3.30yh ar gyfer 'te brynhawn posh' gan Nourish gan Jane Clarke. 
  • Hefyd, ar brynhawn dydd Mercher a dydd Iau, bydd sesiynau galw heibio am ddim gyda sefydliadau gofal iechyd dementia.
     
  • Mae gweithdai hyfforddi am ddim ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn i artistiaid sy'n ceisio gweithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia. I ddarganfod mwy ac i archebu lle gweithdy arlunydd cysylltwch â [email protected]