Alek O.

Alek O.

Multicolour, 2018
£300

Papur,
23 x 30cm
Wedi fframio / Heb ffrâm
3 argraffiad wedi’u llofnodi a’u rhifo 

Hefyd r gael:

Abitare, 2018
Papur
23 x 30cm
Wedi fframio / Heb ffrâm
3 argraffiad wedi’u llofnodi a’u rhifo
£300 

Mae Alek O. – artist a anwyd yn yr Ariannin – yn aml yn gweithio gyda gwrthrychau sy’n bodoli eisoes ac yn defnyddio ac yn addasu dulliau traddodiadol o greu celf, fel peintio, lluniadu a brodio. Drwy drawsnewid gwrthrychau y mae hi wedi dod o hyd iddynt neu sydd wedi cael eu rhoi iddi – er enghraifft, pethau personol neu bethau roedd ffrind neu aelod o’r teulu’n arfer berchen arnynt – mae’n newid eu ffurf a’u hedrychiad mewn ffordd sy’n gwneud iddynt ymddangos fel pe baent yn adlewyrchu cyfnodau o hanes celf, Minimaliaeth ac Arte Povera yn bennaf, ond eto, maent yn gwrth-ddweud eu hanes eu hunain ar yr un pryd.

Yn ei gwaith, mae hi wedi defnyddio hysbyseb o gylchgrawn dylunio Eidalaidd o’r 1990au, lle mae’r pensaer Alessandro Merdini wedi’i gynnwys mewn hysbyseb fel seren enwog sy’n hyrwyddo cwmni teils. Mae’r tri darn yn ymwneud yn uniongyrchol â fframwaith cysyniadol In Addition. Mae’r artist yn defnyddio’r un hysbyseb deirgwaith ac yn ailffurfio’r tri i greu cyfluniadau newydd – gan bwysleisio gwahanol werthoedd y cwmpasau argraffu a lliw rhwng pob hysbyseb a’r cylchgronau roeddynt wedi’u cynnwys ynddynt.

Rydym yn falch o gyflwyno cyfres o rifynnau cyfyngedig gan artistiaid enwog yn rhyngwladol. Mae MOSTYN yn elusen gofrestredig y DU a bydd yr elw o werthiant y rhifynnau yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn rhaglen arddangos ac ymgysylltu'r oriel.

Am fanylion pellach am y rhifynnau gan yr artistiaid neu i brynu rhifyn, e-bostiwch: [email protected]