Richard Wathen: Llygaid Newydd Bob Tro

Exhibition

Richard Wathen: Llygaid Newydd Bob Tro

ailagor 19 Mai tan 20 Mehefin 2021
14 Tachwedd - 20 Mehefin 2021
Bydd yr arddangosfa hon yn ailagor ddydd Mercher 19 Mai 2021. Ar agor: Mawrth - Sul 11yb – 4yp.
 
Mae Richard Wathen yn siarad am ei arddangosfa newydd 'Llygaid Newydd Bob Troym MOSTYN
 
 
 
Mae arddangosfa unigol Richard Wathen, enillydd 'Gwobr Arddangosfa’ MOSTYN Agored 21, yn cynnwys cyfres newydd o baentiadau. Mae gwaith Wathen wedi’i wreiddio yng nghanon paentiadau hanesyddol, ac mae’n canobwyntio’n bennaf ar bortreadau, gan ddarlunio cymeriadau sy’n myfyrio neu’n betrusgar; yn gwrando ar waliau, esgus cysgu, yn torheulo dan olau’r lleuad, neu mewn cyflwr arall o ansicrwydd. Mae gweithiau Wathen yn dangos yr amrywiaeth cynhyrfus a chymhleth o emosiynau dynol, o bryder a thristwch i anobaith, a achosir gan bwysau economaidd-gymdeithasol bywyd heddiw. Mae'r dwysedd a grëir drwy ddefnyddio manylion bach yn bwerus ac yn emosiynol i gyfleu ei syniadau. Mae ei waith yn herio genre paentiadau ffigurol drwy chwarae beiddgar rhwng y ffigurol a’r haniaethol, rhwng dwysedd solet yr arwyneb pŵl a breuder y ffigurau a gynrychiolir.
 
Mae'r pynciau a ddarlunnir yn aml yn deillio o gyfuniad o ddelwedd, meddwl, sain a chof, sydd dros amser yn dod at ei gilydd mewn ffordd reddfol. Yn dilyn y cysyniad ciwbist o safbwyntiau lluosog mewn amser, mae pob ffigur yn parhau mewn cyflwr o newid cyson, y tu hwnt i'r presennol. Mae eu hoedran, eu rhyw a'u hystumiau'n cael eu gadael yn amwys, yn agored i sefyllfa ddi-droi'n-ôl o betruso ac ansicrwydd.  Drwy wrthod cael eu gosod mewn amser a lle, mae gweithiau Wathen yn cynnig ymchwiliad i'r cyflwr dynol mewn oes lle ystyrir bod delwedd yn gallu cymryd lle bodau dynol â chydwybod.
 
Curadur:  Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, MOSTYN
 
Mae catalog arddangosfa Llygaid Newydd Bob Tro ar werth yn siop MOSTYN o fis Chwefror 2021. 
 
Pecyn Adnoddau Artist
 
Ynglyn å'r artist
Cafodd Richard Wathen ei eni yn Llundain yn 1971. Mae’n byw ac yn gweithio yn Suffolk. Graddiodd o Ysgol Gelf Caer-wynt a derbyniodd MA mewn Celf Gain o Ysgol Gelf Chelsea. Enillodd ‘Gwobr y Gynulleidfa’ MOSTYN Agored 21 ‘yn 2019. Mae ei arddangosfeydd unigol wedi’u cyflwyno yn Annalisa Stevens, Llundain, Max Wigram Gallery, Llundain, L&M Arts, Efrog Newydd a Salon 94, Efrog Newydd. Mae ei arddangosfeydd grŵp yn cynnwys Turps Banana Gallery, Llundain, Hauser & Wirth, Llundain, Blum & Poe, Los Angeles, Canolfan Celf Gyfoes Hudson Valley, Efrog Newydd, Maison Particulière, Brwsel, The Olbricht Collection, ME Collectors Room, Berlin, Kunsthalle Krems, Amgueddfa Celf Gyfoes Los Angeles, La Maison Rouge, Paris, John Hansard Gallery, Southampton a CAPC Musee d’Art Contemporain de Bordeaux. Mae ei gasgliadau cyheddus yn cynnwys Amgueddfa Celf Gyfoes Los Angeles a The Olbricht Collection, Berlin.
 

Downloads: