Richard Wathen
Mae gwaith Wathen wedi’i wreiddio yng nghanon paentiadau hanesyddol, ac mae’n canobwyntio’n bennaf ar bortreadau, gan ddarlunio cymeriadau sy’n myfyrio neu’n betrusgar; yn gwrando ar waliau, esgus cysgu, yn torheulo dan olau’r lleuad, neu mewn cyflwr arall o ansicrwydd. Mae gweithiau Wathen yn dangos yr amrywiaeth cynhyrfus a chymhleth o emosiynau dynol, o bryder a thristwch i anobaith, a achosir gan bwysau economaidd-gymdeithasol bywyd heddiw. Mae'r dwysedd a grëir drwy ddefnyddio manylion bach yn bwerus ac yn emosiynol i gyfleu ei syniadau. Mae ei waith yn herio genre paentiadau ffigurol drwy chwarae beiddgar rhwng y ffigurol a’r haniaethol, rhwng dwysedd solet yr arwyneb pŵl a breuder y ffigurau a gynrychiolir.
Mae catalog arddangosfa Llygaid Newydd Bob Tro ar werth yn siop MOSTYN.
Rydym yn falch o gyflwyno cyfres o rifynnau cyfyngedig gan artistiaid enwog yn rhyngwladol. Mae MOSTYN yn elusen gofrestredig y DU a bydd yr elw o werthiant y rhifynnau yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn rhaglen arddangos ac ymgysylltu'r oriel.
Am fanylion pellach am y rhifynnau gan yr artistiaid neu i brynu rhifyn, e-bostiwch: [email protected]