
Dr DeAnn Bell
- Gweithdy
Ffurfiau barddonol o Japan: yr haiku a thu hwnt
Gweithdy ysgrifennu creadigol gyda Dr DeAnn Bell - AM DDIM
22 Chwefror 2020, 2:00pm
Bydd cyfranogwyr yn dysgu am yr haiku a ffurfiau barddonol eraill o Japan. Wedyn bydd cyfle i ysgrifennu un haiku ac un ffurf arall.
Mae'r digwyddiad yn bosibl diolch i gefnogaeth The Great Britain Sasakawa Foundation.
Mae Dr DeAnn Bell yn awdur ac yn ddarlithydd ysgrifennu creadigol. Mae hi wrth ei bodd â llyfrau, cathod a dysgu pethau newydd. Mae’n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Awduron Addysg (NAWA) ac yn Gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch. Mae ei chyhoeddiadau diweddaraf yn cynnwys ei cherdd ‘Margerery Kempe: A Problematic Autobiography’ a’i stori fer ‘Blind Date’ yn yr
antholeg o ffuglen damcaniaethol, Normal Deviation.
Booking:
AM DDIM (Argymhellir archebu lle)