FEL Y MAE: Ôl Troed Dyn ar Dirlun Cymru
Yn ein 'Oriel Gyfarfod' newydd.
Mae’r ffotograffydd Magnum adnabyddus David Hurn yn un o ffotograffwyr gohebiaeth mwyaf dylanwadol Prydain. O dras Gymreig, enillodd Hurn ei enw da yn gynnar gyda'i ohebiaeth am chwyldro Hwngari yn 1956. Yn y pen draw, trodd wrth faterion cyfoes, gan ddewis cymryd agwedd fwy personol tuag at naratif gweledol.
Mae Hurn wedi treulio llawer o'i waith proffesiynol yn croniclo bywyd Cymru. Mae ei waith diweddar yn archwilio effaith y ddynoliaeth, sydd weithiau’n absẃrd, ar dirwedd Cymru.
Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno rhai o’r gweithiau a gafodd sylw yn y ffilm Fel y Mae: Ôl Troed Dyn ar Dirlun Cymru, gan yr artist Zed Nelson, a ddilynodd daith ffotograffig Hurn o amgylch Cymru.
***
Ymunwch â ni ar gyfer agoriad swyddogol yr arddangosfa a dangosiad o’r ffilm ddydd Mercher 16 Hydref am 6.30pm
Croeso a Derbyniad Diodydd
Dangosiad o ffilm Zed Nelson gyda chyflwyniad gan Gyfarwyddwr MOSTYN, Alfredo Cramerotti.
Sesiwn Holi ac Ateb i ddilyn gyda Zed Nelson
Mae mynediad AM DDIM. Croesewir rhoddion
Cynghorir archebu.
I archebu, cysylltwch â'n siop ddydd Mawrth - dydd Sul 10.30 - 5pm
01492 868191 neu [email protected]
Archebu ar-lein trwy Eventbrite
Supported by:
Mae'r arddangosfa a'r dangosiad ffilm yn bosibl diolch i gefnogaeth Ymddiriedolaeth Borzello.