Rebecca Gould

Exhibition

Rebecca Gould

Esgyn: Oriel 6
19 Gorffennaf - 9 Tachwedd 2014

Mae Rebecca Gould, a aned ym 1980 yn yr Alban ac sy'n byw yng Nghaergybi, yn canolbwyntio ar ddisyfydrwydd y weithred a grym gweddnewidiol yr ystum celfyddydol.  Cyflwynir y gwaith mewn aml i ffurf a defnyddir amrywiaeth eang o ddeunyddiau sy'n ein galluogi i werthfawrogi'r syniad o hanes a berthyn i'r gwrthrych terfynol yn ogystal â'i gymeriad trawsnewidiol.  Gyda chelf Gould, mae fel petaem ni'n cyweirio ein dillad er mwyn iddynt ein ffitio'n well.

Oriel 6

Wedi ei osod ar y llawr uchaf ym MOSTYN, mae Oriel 6 wedi ei neilltuo i gyflwyno gwaith artistiaid ifanc ac egin artistiaid sydd heb eto gael arddangosfa unigol mewn gofod sefydliadol, naill ai'n genedlaethol neu'n rhyngwladol. Mae gofod Oriel 6 a'i raglen atodol a elwir 'Esgyn' yn rhoi cyfle i artistiaid weithio dan amodau proffesiynol a chyflwyno eu gwaith i gynulleidfa ehangach. I'r gynulleidfa hefyd, bydd Oriel 6 yn llwyfan i ganfod pethau newydd. Bydd yn dod ag amrywiaeth eang o artistiaid sydd ar flaen y gad o ran practis celf gyfoes, o bell ac agos, i MOSTYN.

Supported by: