Montez Press Radio

  • Digwyddiad Digidol

Montez Press Radio

26 Gorffennaf 2020
26 Gorffennaf 2020, 3:00pm to 11:00pm
Mewn cydweithrediad â MOSTYN, bydd Montez Press Radio yn lansio cyfres o gyfweliadau, sgyrsiau, darlleniadau a sain gan artistiaid, awduron, cyhoeddwyr, cerddorion a selogion. Yng ngoleuni'r sialensiau cyfredol sy’n wynebu pobl ledled y byd ac o fewn y sector celfyddydol, mae'r gyfres hon yn ceisio meithrin ymdeimlad o ddeialog a chymuned barhaus.. Mae'r rhaglen yn cynnwys darllediadau newydd a deunydd o archif Montez Press Radio. Bydd y darllediadau yn cael eu darlledu ar ddydd Sul olaf bob mis o fis Mai tan fis Awst (31 Mai, 28 Mehefin, 26 Gorffennaf, 30 Awst) o 3-7pm BST (GMT +1)
 
Ymhlith y cyfranwyr, gydag enwau eraill i’w cyhoeddi’n fuan, fydd: A.M.Bang, Christiane Blattmann, Jacqueline de Jong, Jack Burton, Caribic Residency, Juliette Desorgues, Olivia Erlanger, Endangered Languages Project, Attilia Fattori Franchini, Dorota Gawęda and Eglė Kulbokaitė, Cinzia Mutigli, New Latin Wave, Athena Papadopoulos, Hannah Regel, Erica Scourti, Zoë Skoulding, Joe Walsh, Yellow Back Books (Becca Thomas, Louise Hobson, Freya Dooley & Clare Charles). 
 
Amserlen: Dydd Sul 26 Gorffennaf 2020 o 3pm BST (GMT+1)
 
3.00pm: Nikima Jagudajev and Jordan Balaber featuring June Jenkins, Martha Da'ro, and Sanne Dodie: You're Welcome
 
4:00pm: Yellow Back Books: Shorts
 
5.00pm: Cinzia Mutigli: Finally got a balance, all the support of a modern society
 
6.00pm: Hannah Regel: Oliver Reed
 
7.00pm: Ashley Holmes: Time & Times Pt. II
 
8.00pm: Jacqueline de Jong: In Conversation
 
9.00pm: Goldsmiths Wildcats: In Conversation
 
10.00pm: Endangered Languages Project: Voices of Resilience
 
11.00pm: Endangered Language Alliance with Natalie Galpern, Nicole Galpern, and Ross Perlin: Language at a Distance
 
 
***
Mae Montez Press yn gwmni cyhoeddi a gorsaf radio sy’n cael ei redeg gan artistiaid ac yn gweithredu rhwng Llundain, Hamburg, Efrog Newydd a Brwsel. Caiff ei weld fel trydydd iteriad ysbrydol Lola Montez (Lola, Maria, Mario). Cafodd Montez Press ei sefydlu yn 2012, ac ers hynny, mae wedi cyhoeddi testunau sy’n ysgrifennu yn erbyn moddau beirniadol cyfredol a dogmâu damcaniaethol sy'n llywio ffordd y mae’r economi wybodaeth gyfoes yn gweithio.