Cymdeithas Gelf y Merched II

Exhibition

Cymdeithas Gelf y Merched II

18 Gorffennaf - 1 Tachwedd 2015
Pleser o'r mwyaf i MOSTYN, Cymru Y DU yw cyhoeddi Cymdeithas Gelf Merched II, y bumed mewn cyfres o arddangosfeydd sy'n edrych ar dreftadaeth a hanes cyfoethog adeilad yr oriel.Cornelia Baltes |  Sol Calero |  Ditte Gantriis | Lydia Gifford | May Hands | Jamian Juliano-Villani | Ella Kruglyanskaya | Shani Rhys James | Caragh Thuring

Mae'r sioe yn ddilyniant i'r arddangosfa Cymdeithas Gelf Merched gyntaf a gynhaliwyd ym mis Hydref 2013. Man cychwyn yr arddangosfa honno oedd sefydlu'r oriel ym 1901 fel yr oriel gyntaf yn y byd i gael ei hadeiladu'n bwrpasol i gyflwyno gwaith celf gan artistiaid benywaidd, sef Cymdeithas Gelf Merched Gwynedd yn yr achos hwn. Mae Cymdeithas Gelf Merched II yn parhau yn yr un anian â'r Gymdeithas Gelf Merched wreiddiol, gan wahodd naw o ferched sy'n gweithio fel artistiaid yn rhyngwladol, i gyflwyno eu gwaith yn yr oriel 100 mlynedd yn ddiweddarach. Yn rhannol, mae'n arolwg o'r ddisgyblaeth paentio heddiw; mae'r gwaith yn dangos amrediad o ymdriniaethau, arddulliau ac ystyriaethau cysyniadol ac yn tynnu sylw at berthnasedd parhaus paentio.

 

Curadur yr arddangosfa yw Adam Carr (Curadur Rhaglen Celfyddydau Gweledol MOSTYN).  Cynhyrchwyd yr arddangosfa gan MOSTYN, Cymru, Y DU. Crëwyd adran hanesyddol yr arddangosfa mewn cydweithrediad â Jane Matthews a Richard Cynan Jones.

Byddwn yn cynhyrchu llyfryn lliw i gyd-fynd â'r arddangosfa a fydd yn cynnwys traethawd curadurol, gwybodaeth ysgrifenedig am yr artistiaid sy'n cymryd rhan a'r broses ymchwil hanesyddol a lluniau o'r arddangosfa. I archebu copi, cysylltwch â: [email protected]

 

Supported by: 

 

Downloads: