The Crafted Clay Collective

The Crafted Clay Collective

Nadolig Crefftus
6 Tachwedd - 3 Ionawr 2016

Kate Luck Ceramics | Emily Doran Pottery | Daisy Cooper Ceramics | Adam Ross Ceramics | Benjamin Matthews | I am sjm* | Kayley Holderness

Mae'r Crafted Clay Collective yn grŵp cyffrous newydd o chwe dylunydd­wneuthurwr serameg o Lundain a ddaeth at ei gilydd trwy Kate Luck Ceramics. Sefydlwyd The Collective gyda'r bwriad o ehangu cyfleoedd adwerthu aelodau'r Collective ac i gefnogi a hyrwyddo Crefftwaith o Brydain trwy werthiant nwyddau wedi'u gwneud â llaw. Yr arddangosiad yn ffenestr y Nadolig ym MOSTYN fydd y tro cyntaf i'r Collective arddangos gyda'i gilydd, ac fel grŵp maent wrth eu bodd o gael y cyfle.

Mae aelodau'r Crafted Clay Collective yn cynhyrchu eitemau o lestri bwrdd, gwrthrychau ar gyfer y cartref, rhai addurniadol a rhoddion. Mae gan wneuthurwyr y gydweithfa ystod eang ac amrywiol o arbenigedd mewn deunyddiau serameg a phrosesau. Mae'r gwaith trawiadol sy'n cael ei arddangos wedi ei wneud gan ddefnyddio pob un o'r dulliau sydd ar gael mewn serameg gan gynnwys taflu ar olwyn, creu â llaw neu gastin slip ac mae ar gael mewn porslen, crochenwaith caled, a chlai terra cotta. Mae'r Crafted Clay Collective yn teimlo'n angerddol am eu maes dylunio crefft, y deunyddiau a'r prosesau y maent yn eu defnyddio, yn ogystal ag am hyrwyddo crefftwaith serameg wedi'i wneud â llaw yn y maes celf ehangach.

Gyda diddordeb y cyhoedd yn y sector grefft wedi cynyddu'n ddiweddar gyda 'wythnos grefft' ddynodedig yn cael ei lansio yn Llundain yn ystor yr haf, yn ogystal â'r BBC yn darlledu cyfres deledu newydd gyda fersiwn crochenwaith o'r Great British Bake Off, dyma'r amser i ddod â serameg wedi'i greu â llaw i'r blaendir gydag arddangosiad Nadoligaidd i ddenu'r dorf ym MOSTYN.