Daniella Valz Gen - Creu eich chwedl eich hun / CERDD A SWYN

  • Adnoddau Dysgu

Daniella Valz Gen - Creu eich chwedl eich hun / CERDD A SWYN

Pecyn Adnoddau Dysgu
9 Tachwedd 2021, 10:30am to 6 Chwefror 2022, 5:00pm

Rydym wedi gweithio gyda'r artist Daniella Valz Gen i gynhyrchu gweithgareddau sy'n archwilio creu chwedlau, barddoniaeth a chrefft swynion sy'n cael eu hysbrydoli gan weithiau epig gan feirdd ac artistiaid fel David Jones. Mae'r pecynnau hyn ar gael yn y Gymraeg a Saesneg ac maent ar gael am ddim yn y Stiwdio Ddysgu ym MOSTYN a gellir eu lawrlwytho hefyd fel ffeiliau PDF i chi eu hargraffu o'ch cartref. Mae'r pecynnau hyn hefyd ar gael fel fersiynau hygyrch testun plaen.

Creu eich chwedl eich hun (6+ oed)
Mae chwedl yn stori hynafol gyda chymeriadau a digwyddiadau rhyfeddol. Mae rhai chwedlau yn dweud wrthym am darddiad lleoedd, credoau diwylliannol a symbolau. Darganfyddwch chwedlau newydd a chreu eich un eich hun trwy ddefnyddio gludwaith, ysgrifennu a darlunio yn y pecyn gweithgaredd hwn.

Lawrlwythwch y pecyn gweithgaredd 
Lawrlwythwch y pecyn gweithgaredd testun plaen

CERDD A SWYN (14+ oed)
Rydym yn gwneud synnwyr o'r byd o'n cwmpas trwy iaith, a gallwn defnyddio iaith i gyflawni pŵer dros ystyr. Mae'r pecyn adnoddau hwn yn cynnwys dau weithgaredd, y cyntaf ohonynt y byddwch chi'n dysgu sut i ysgrifennu cerdd goffa i goffáu person neu ddigwyddiad. Mae'r ail weithgaredd yn eich tywys trwy'r broses o wneud eich swyn eich hun, mynegiant creadigol sy'n llawn bwriad ac emosiwn.

Lawrlwythwch y pecyn gweithgaredd
Lawrlwythwch y pecyn gweithgaredd testun plaen

Ynglŷn â'r artist
Mae Daniella Valz Gen yn fardd, arlunydd a darllenydd cardiau, a anwyd yn Lima, Peru ac sydd wedi'u leoli yn Llundain. Mae eu gwaith yn archwilio'r bylchau rhwng ieithoedd, diwylliannau a systemau gwerth gyda phwyslais ar ymgorfforiad a defod, trwy gyfryngau perfformiad, gosodiad, sgwrs a thestun. Valz Gen yw awdur y casgliad barddoniaeth Subversive Economies (PSS 2018). Cyhoeddwyd eu rhyddiaith mewn amryw o gyfnodolion celf a llenyddol fel SALT. Magazine, Paperwork Magazine a The Happy Hypocrite ymhlith eraill. Ar hyn o bryd maen nhw'n datblygu cam nesaf eu phrosiect (be)longing, cyfres o ddefodau elfenol ymgolli. Mae Valz Gen yn cynnal cynulliadau misol sy'n archwilio arfer barddonol mewn perthynas â symbolaeth cardiau Tarot o fewn cynhwysydd Sacred Song Tarot. @daniella_vg @sacredsongtarot

Cadwch yn Ddiogel 
Mae'r Pecynnau Adnoddau Dysgu wedi'u datblygu yn unol â chanllawiau diogelwch Covid-19. Mae'r pecynnau sydd ar gael o'r oriel yn cynnwys nifer gyfyngedig o bensiliau lliw a fydd yn cael eu rhoi mewn cwarantîn am 72 awr rhwng defnyddiau. Pan fyddwch wedi gorffen gyda'r pecynnau, dychwelwch bensiliau i'r ddesg a glanweithio'ch dwylo cyn ac ar ôl defnyddio